QRN – 601/4888/3 Ffi £69
Diben y Cymhwyster:
Diben y cymhwyster hwn yw darparu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd sydd eu hangen ar ddysgwyr i weithio heb oruchwyliaeth fel hyfforddwr personol ym maes chwaraeon a hamdden egnïol.
Bwriedir Diploma Lefel 3 Focus Awards mewn Hyfforddiant Personol (RQF) ar gyfer hyfforddwyr ymarfer corff sy’n gallu cynllunio, darparu a gwerthuso rhaglenni gweithgarwch corfforol yn annibynnol a heb oruchwyliaeth uniongyrchol.
Ystod Oedran
Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 16 oed i ymgymryd â’r cymhwyster hwn.
Cwmpas Daearyddol
Mae’r cymhwyster hwn ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Gofynion Mynediad i Ddysgwyr
Argymhellir rhywfaint o brofiad o ymarferion campfa, gan gynnwys pwysau rhydd, yn gryf.
Mae’r cymhwyster yn gofyn am ymdrech gorfforol ac mae cyfranogiad unigol yn hanfodol; felly, mae lefel o ffitrwydd corfforol yn angenrheidiol.
Ceir elfen o gyfathrebu (trafod, cyflwyno, darllen ac ysgrifennu) hefyd, a dylai fod gan ddysgwyr sgiliau cyfathrebu sylfaenol ar lefel 2.
Strwythur y Cymhwyster
Er mwyn ennill Diploma Lefel 3 Focus Awards mewn Hyfforddiant Personol, mae’n rhaid i ddysgwyr gwblhau’r 9 uned orfodol ganlynol. Os bydd y dysgwr yn dymuno, gall hefyd gwblhau’r uned ddewisol ychwanegol
Llwybrau Cynnydd
Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o’r cymhwyster hwn ymgymryd â’r cymwysterau canlynol:
- Dyfarniad Lefel 3 Focus Awards mewn Darparu Hyfforddiant Personol Ar-lein (RQF)
- Diploma Lefel 4 Focus Awards Uwch-ymarferydd mewn Hyfforddiant Personol (RQF)
- Diploma Lefel 4 Focus Awards Uwch-ymarferydd mewn Hyfforddiant Personol (RQF)
- Tystysgrif Lefel 4 Focus Awards ar gyfer Hyfforddwyr Personol Uwch (RQF)
I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch yma.
Teitl yr Uned | Cyfeirnod yr Uned | Lefel | Credydau | Oriau Dysgu dan Arweiniad |
Unedau Gorfodol | ||||
Egwyddorion ymarfer corff, ffitrwydd ac iechyd | A/600/9017 | 2 | 4 | 28 |
Anatomeg a ffisioleg ar gyfer ymarfer corff ac iechyd | A/600/9051 | 3 | 6 | 43 |
Hybu iechyd, diogelwch a lles mewn hamdden egnïol. | D/601/4484 | 2 | 4 | 30 |
Myfyrio ar eich arferion eich hun wrth ddarparu ymarfer corff a gweithgarwch corfforol a’u datblygu | F/601/7362 | 2 | 4 | 23 |
Dylunio, rheoli ac addasu rhaglen hyfforddiant personol gyda chleientiaid | H/601/7760 | 3 | 6 | 30 |
Ysgogi cleientiaid i gynnal ymlyniad hirdymor i ymarfer corff a gweithgarwch corfforol | K/601/7758 | 3 | 4 | 15 |
Darparu ymarfer corff a gweithgarwch corfforol yn rhan o raglen hyfforddiant personol | K/601/7761 | 3 | 10 | 70 |
Gwerthuso rhaglenni ymarfer corff a gweithgarwch corfforol | M/601/7759 | 3 | 3 | 14 |
Cymhwyso egwyddorion maetheg i gefnogi nodau cleientiaid yn rhan o raglen ymarfer corff a gweithgarwch corfforol | M/601/7762 | 3 | 7 | 42 |
Uned Ychwanegol | ||||
Cynllunio, marchnata a gwerthu gwasanaethau | T/601/7763 | 3 | 5 | 26 |