Diploma Lefel 2 Focus Awards mewn Gwaith Chwarae (NVQ) (RQF)

QRN -601/8022/5                                                                                               Ffi £59

Diben y Cymhwyster:

Mae Diploma Lefel 2 Focus Awards mewn Gwaith Chwarae (NVQ) (RQF) wedi’i anelu at y dysgwyr hynny sydd eisoes yn gweithio mewn lleoliad chwarae. Diben Diploma Lefel 2 Focus Awards mewn Gwaith Chwarae (NVQ) (RQF) yw datblygu gwybodaeth a sgiliau dysgwyr i gyflawni rôl gweithiwr chwarae yn gymwys. Bydd dysgwyr yn caffael gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion gwaith chwarae, a ffyrdd o gefnogi chwarae plant a phobl ifanc. Mae'r cymhwyster hefyd yn ymdrin â meysydd megis hybu ymddygiad cadarnhaol/cyfathrebu/iechyd, diogelwch a llesiant.

Ystod Oedran

Dylai dysgwyr fod yn 16 oed i ymgymryd â'r cymhwyster hwn.

Cwmpas Daearyddol

Mae’r cymhwyster hwn ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Gofynion Mynediad i Ddysgwyr

Dylai dysgwyr fod yn gymwys mewn llythrennedd a rhifedd er mwyn helpu gydag elfennau cyfathrebu. Mae hyn yn ôl disgresiwn y ganolfan oherwydd efallai y byddant yn penderfynu defnyddio dulliau profi diagnostig i ganfod sut y gallant gefnogi dysgwyr.

Llwybrau Cynnydd

Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o'r cymhwyster hwn ymgymryd â'r cymwysterau canlynol:
  • Diploma Lefel 3 Focus Awards mewn Gwaith Chwarae (RQF)

Strwythur y Cymhwyster

Er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, rhaid i ddysgwr gwblhau pob un o'r saith uned orfodol. Unedau Gorfodol I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch yma.

Unedau Gorfodol

Teitl yr Uned Cyfeirnod yr Uned Lefel Credydau Oriau Dysgu dan Arweiniad
Egwyddorion Gwaith Chwarae H/600/9500 2 3 29
Gweithio mewn amgylchedd chwarae gyda phlant a phobl ifanc M/600/9502 2 4 17
Cefnogi Chwarae Plant a Phobl Ifanc F/600/9505 2 3 26
Cydberthnasau yn yr Amgylchedd Chwarae L/600/9507 2 4 35
Iechyd a diogelwch yn yr Amgylchedd Chwarae Y/600/9509 2 3 25
Diogelu a Lles Plant a Phobl Ifanc yn yr Amgylchedd Chwarae L/600/9510 2 2 15
Datblygu eich Gwaith Chwarae a’ch Ymarfer Tîm eich Hun H/600/9514 2 3 25
Cyfrannu at Iechyd, Diogelwch, Diogeledd a Lles Plant a Phobl Ifanc sy’n defnyddio’r Amgylchedd Chwarae Y/600/9526 2 5 30
Helpu i Wella eich Ymarfer eich Hun a Gwaith y Tîm Gwaith Chwarae H/600/9528 2 4 30
Ymarfer Gwaith Chwarae Myfyriol R/600/9511 3 3 20
Cefnogi Cydberthnasau yn yr Amgylchedd Chwarae T/600/9520 3 4 30
Gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc i Greu Lleoedd Chwarae a Chefnogi Chwarae Hunangyfeiriedig a Ddewisir yn Rhydd L/600/9524 3 7 50

Child Development and Wellbeing