Tystysgrif Lefel 2 Focus Awards mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion (RQF)

QRN -601/7118/2                                                                                               Ffi £39

Diben y Cymhwyster:

Mae Tystysgrif Lefel 2 Focus Awards mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion (RQF) wedi’i hanelu at yr aelodau hynny o weithlu yr ysgol sy’n cefnogi yn uniongyrchol y broses o addysgu a dysgu disgyblion. Mae’r cymhwyster yn darparu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i weithio’n uniongyrchol gyda phlant neu bobl ifanc i gefnogi’r asesiad ar gyfer dysgu, meithrin cydberthnasau, hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth, a deall sut i ddiogelu llesiant plant a phobl ifanc.

Ystod Oedran

Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 16 oed o leiaf i ymgymryd â’r cymhwyster hwn.

Cwmpas Daearyddol

Mae’r cymhwyster hwn ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Gofynion Mynediad i Ddysgwyr

Nid yw Focus Awards yn gosod unrhyw ofynion mynediad eraill, ond gallai’r ganolfan bennu neu ofyn am feini prawf ychwanegol.

Llwybrau Cynnydd

Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o’r cymhwyster hwn ymgymryd â’r cymwysterau canlynol:
  • Diploma Lefel 3 Focus Awards mewn Cymorth Arbenigol ar gyfer Addysgu a Dysgu mewn ysgolion (RQF)
  • Tystysgrif Lefel 3 Focus Awards mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion (RQF)
  • Dyfarniad Lefel 3 Focus Awards mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion (RQF)

Strwythur y Cymhwyster

Er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, rhaid i ddysgwr gwblhau pob un o'r saith uned orfodol. Unedau Gorfodol I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch yma.

Unedau Gorfodol

Teitl yr Uned Cyfeirnod yr Uned Lefel Credydau Oriau Dysgu dan Arweiniad
Datblygiad plant a phobl ifanc H/601/3305 2 2 15
Diogelu lles plant a phobl ifanc K/601/3323 2 3 20
Cyfathrebu a chydberthnasau proffesiynol â phlant, pobl ifanc ac oedolion F/601/3313 2 2 15
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn gwaith gyda phlant a phobl ifanc D/601/3321 2 2 15
Helpu i wella eich arferion eich hun ac arferion y tîm mewn ysgolion T/601/7391 2 3 15
Cynnal a chefnogi cydberthnasau â phlant a phobl ifanc D/601/7403 2 3 15
Cefnogi iechyd a diogelwch plant a phobl ifanc T/601/7410 2 3 15
Cefnogi ymddygiad cadarnhaol ymhlith plant a phobl ifanc T/601/7407 2 2 15
Cefnogi gweithgareddau dysgu A/601/7411 2 4 25

Unedau Dewisol

Teitl yr Uned Cyfeirnod yr Uned Lefel Credydau Oriau Dysgu dan Arweiniad
Ysgolion fel sefydliadau A/601/3326 2 3 20
Ysgolion fel sefydliadau T/601/3325 3 3 15
Cyfrannu at gefnogi dysgwyr dwyieithog L/601/7414 2 2 12
Arolygu profion ac arholiadau Y/601/7416 3 3 19
Paratoi a chynnal amgylcheddau dysgu D/601/7417 2 3 18
Darparu arddangosfeydd mewn ysgolion K/601/6500 2 3 15
Cefnogi asesu ar gyfer dysgu A/601/4072 3 4 20
Cefnogi plant a phobl ifanc yn ystod amseroedd prydau neu fyrbrydau A/601/6517 2 3 18
Cefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anableddau ac anghenion addysgol arbennig D/601/6526 2 4 26
Cefnogi chwarae a hamdden plant a phobl ifanc T/601/6564 2 3 16
Cefnogi plant a phobl ifanc i deithio y tu allan i’r lleoliad Y/601/6573 2 3 22
Cefnogi gweithgareddau allgyrsiol M/601/6577 2 3 15
Cefnogi’r defnydd o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu ar gyfer addysgu a dysgu A/601/6579 2 2 12
Symud a lleoli unigolion yn unol â’u cynllun gofal J/601/8027 2 4 26
Darparu cymorth ar gyfer sesiynau therapi D/601/9023 2 2 14
 

Direct Learning support