QRN -601/4886/X Ffi £49
Diben y Cymhwyster:
Mae Tystysgrif NVQ Lefel 2 Focus Awards mewn Arweinyddiaeth Gweithgarwch wedi’i hanelu at y dysgwyr hynny sy’n gweithio mewn amgylcheddau fel canolfannau gwyliau, clybiau ieuenctid, canolfannau hamdden a sefydliadau gweithgarwch eraill. Bydd y cymhwyster yn rhoi’r cymhwysedd, yr wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i ddysgwyr ar draws meysydd fel iechyd a diogelwch, cefnogi timau, cynaliadwyedd amgylcheddol, darparu gwasanaethau da i gwsmeriaid a chynnal offer ar gyfer gweithgareddau.
Ystod Oedran
Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan; fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 16 oed i ymgymryd â’r cymhwyster.
Cwmpas Daearyddol
Mae’r cymhwyster hwn wedi ei achredu i’w ddefnyddio yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Gofynion Mynediad i Ddysgwyr
Mae’r cymhwyster yn gofyn am ymdrech gorfforol ac mae cyfranogiad unigol yn hanfodol, felly mae angen rhywfaint o ffitrwydd corfforol. Cynhwysir elfen o gyfathrebu (trafod, cyflwyno, darllen, ac ysgrifennu) a chymhwyso rhifau, felly dylai dysgwyr feddu ar sgiliau sylfaenol mewn cyfathrebu a rhifedd ar Lefelau 3 a 2 yn y drefn honno.
Llwybrau Cynnydd
Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o’r cymhwyster hwn ddatblygu eu sgiliau ymhellach drwy’r canlynol:
- Dyfarniad Lefel 2 + 3 mewn Egwyddorion Hyfforddi Chwaraeon
- Diploma NVQ Lefel 3 mewn Rheoli Hamdden
- Diploma NVQ Lefel 3 mewn Datblygu Chwaraeon
- Diploma NVQ Lefel 3 mewn Hyfforddiant Personol
- Prentisiaeth Lefel Ganolraddol mewn Arweinyddiaeth Gweithgarwch
Strwythur y Cymhwyster
Er mwyn llwyddo i ennill Tystysgrif NVQ Lefel 2 mewn Arweinyddiaeth Gweithgarwch, rhaid i ddysgwyr ennill 30 credyd o chwe uned orfodol sy’n dod i gyfanswm o 25 credyd a dwy uned ddewisol sy’n dod i gyfanswm o bum credyd.
Unedau Gorfodol
I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch yma.
Unedau Gorfodol
Teitl yr Uned | Cyfeirnod yr Uned | Lefel | Credydau | Oriau Dysgu dan Arweiniad |
Paratoi sesiynau gweithgarwch | F/601/5532 | 2 | 30 | 4 |
Arwain sesiynau gweithgarwch | J/601/5533 | 3 | 67 | 9 |
Cwblhau ac adolygu sesiwn weithgarwch | L/601/5534 | 2 | 30 | 4 |
Cefnogi gwaith y tîm a’r sefydliad | Y/601/4483 | 2 | 15 | 2 |
Hybu iechyd, diogelwch a lles mewn hamdden egnïol | D/601/4484
|
2 | 30 | 4 |
Cefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn hamdden egnïol | H/601/4485 | 3 | 15 | 2 |
Unedau dewisol
Teitl yr Uned | Cyfeirnod yr Uned | Lefel | Credydau | Oriau Dysgu dan Arweiniad |
Cyfrannu at ddatblygiad personol a chymdeithasol cyfranogwyr | K/601/5542 | 2 | 37 | 5 |
Cyfrannu at broses cyfranogwyr o archwilio a deall yr amgylchedd naturiol | M/601/5543 | 2 | 30 | 4 |
Gweinyddu cyllid a gwybodaeth | R/601/5535 | 2 | 22 | 3 |
Cyfrannu at gydweithio â sefydliadau eraill | Y/601/5536 | 2 | 30 | 4 |
Cefnogi datblygiad y gamp neu’r gweithgaredd | H/601/5538 | 2 | 15 | 2 |
Gofalu am gyfranogwyr pan fyddant oddi cartref | K/601/559 | 3 | 45 | 6 |
Galluogi pobl anabl i gymryd rhan mewn gweithgareddau | D/601/5540 | 3 | 67 | 9 |
Cyfrannu at weithgareddau anturus | H/601/5541
|
2 | 60 | 8 |
Cyfrannu at gadwraeth amgylcheddol mewn hamdden egnïol | L/601/4495 | 3 | 45 | 6 |
Gosod, dadosod a storio offer ar gyfer gweithgareddau | K/601/4486 | 2 | 22 | 3 |
Gwirio a gwasanaethu offer ar gyfer gweithgareddau | M/601/4487 | 2 | 22 | 3 |
Rhoi argraff gadarnhaol ohonoch chi eich hun a’ch sefydliad i gwsmeriaid | L/601/0933 | 2 | 33 | 5 |