QRN – 601/6111/5 Fee £69
Diben y Cymhwyster:
Nod Tystysgrif Lefel 4 Focus Awards mewn Arwain Sicrhau Ansawdd Mewnol Prosesau ac Arferion Asesu (RQF) yw rhoi’r wybodaeth a’r cymhwysedd i ddysgwyr asesu unigolion yn y gweithle.
Mae Tystysgrif Lefel 4 Focus Awards mewn Arwain Sicrhau Ansawdd Mewnol Prosesau ac Arferion Asesu (RQF) wedi’i hanelu at y rhai sy’n cynnal ansawdd asesu o fewn sefydliad neu ganolfan asesu.
Ystod Oedran
Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 19 oed i ymgymryd â’r cymhwyster hwn.
Cwmpas Daearyddol
Mae’r cymhwyster hwn ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Gofynion Mynediad i Ddysgwyr
Nid yw Focus Awards yn gosod unrhyw ofynion mynediad eraill, ond gall y ganolfan bennu neu ofyn am feini prawf ychwanegol.
Llwybrau Cynnydd
Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o’r cymhwyster hwn ddatblygu eu sgiliau ymhellach drwy’r canlynol:
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Deall Sicrhau Ansawdd Allanol Prosesau ac Arferion Asesu (RQF)
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Sicrhau Ansawdd Allanol Prosesau ac Arferion Asesu (RQF)
- Tystysgrif Lefel 4 mewn Arwain Sicrhau Ansawdd Allanol Prosesau ac Arferion Asesu (RQF)
Strwythur y Cymhwyster
I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch yma.
Unedau Gorfodol:
Teitl yr Uned | Cyfeirnod yr Uned | Lefel | Credydau | Oriau Dysgu dan Arweiniad |
Deall egwyddorion ac arferion sicrhau ansawdd asesu yn fewnol | T/601/5320 | 4 | 6 | 45 |
Sicrhau ansawdd asesu yn fewnol | A/601/5321 | 4 | 6 | 45 |
Cynllunio, dyrannu a monitro gwaith yn ei faes cyfrifoldeb ei hun | H/600/9674 | 4 | 5 | 45 |