QRN -601/8533/8 Ffi £64.90
Diben y Cymhwyster:
Mae Tystysgrif Lefel 4 Focus Awards ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch (RQF) wedi’i hanelu at y dysgwyr hynny sy’n gweithio fel cynorthwyydd addysgu ar hyn o bryd sy’n dymuno symud ymlaen i statws Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch.
Bydd Tystysgrif Lefel 4 Focus Awards ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch (RQF) yn rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth i ddysgwyr wrth ddadansoddi a mynd i’r afael â’r gwahanol heriau y mae cynorthwywyr ystafell ddosbarth yn debygol o ddod ar eu traws. Bydd dysgwyr hefyd yn deall gweithio gydag unigolion a chyda grwpiau bach yn ogystal â chael cipolwg hanfodol ar gefnogi disgyblion ag anghenion addysgol arbennig (AAA).
Ystod Oedran
Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 16 oed i ymgymryd â’ r cymhwyster hwn.
Cwmpas Daearyddol
Mae’r cymhwyster hwn ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Gofynion Mynediad i Ddysgwyr
Mae’n ofynnol i ddysgwyr fod yn gweithio mewn ysgol fel cynorthwyydd addysgu. Nid yw Focus Awards yn gosod unrhyw ofynion mynediad eraill, ond efallai y bydd gan ddarparwyr hyfforddiant neu golegau eu canllawiau eu hunain.
Llwybrau Cynnydd
Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o’r cymhwyster hwn wella eu sgiliau ymhellach drwy’r canlynol:
- Dyfarniad Lefel 3 Focus Awards mewn Addysg a Hyfforddiant (RQF)
- Tystysgrif Lefel 4 Focus Awards mewn Addysg a Hyfforddiant (RQF)
- Diploma Lefel 5 Focus Awards mewn Addysg a Hyfforddiant (RQF)
Strwythur y Cymhwyster
Er mwyn cyflawni’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, rhaid i ddysgwr gwblhau pob un o’r saith uned orfodol.
Unedau Gorfodol
I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch yma.
Unedau Gorfodol
Teitl yr Uned | Cyfeirnod yr Uned | Lefel | Credydau | Oriau Dysgu dan Arweiniad |
Gwybodaeth a Datblygiad Proffesiynol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch | D/508/2483 | 4 | 4 | 12 |
Datblygiad a Lles Plant | H/508/2484 | 4 | 4 | 12 |
Cefnogi Plant a Phobl Ifanc ag Anghenion Addysgol Arbennig | K/508/2485 | 4 | 4 | 13 |
Hyrwyddo Ymddygiad Cadarnhaol Plant a Phobl Ifanc | A/508/2605 | 4 | 4 | 12 |
Gweithio gydag unigolion a grwpiau o ddysgwyr | T/508/2487 | 4 | 8 | 13 |
Perthnasoedd gwaith cadarnhaol | T/508/2490 | 4 | 4 | 13 |
Cynllunio, monitro, gweithredu ac asesu cwricwlwm | T/508/2490 | 4 | 8 | 12 |