QRN – 601/7930/2 Fee £59
Diben y Cymhwyster:
Mae Tystysgrif Lefel 3 Focus Awards mewn Cefnogi Darpariaeth Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgolion (RQF) wedi’i hanelu at y dysgwyr hynny sy’n gweithio mewn lleoliad addysg gorfforol a chwaraeon ysgol ar hyn o bryd neu sy’n dymuno gweithio mewn lleoliad o’r fath.
Diben Tystysgrif Lefel 3 Focus Awards mewn Cefnogi Darpariaeth Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol (RQF) yw rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i ddysgwyr o ddarparu addysg gorfforol a rhaglenni mewn ysgolion. Mae’r cymhwyster yn paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth o fewn amgylchedd chwaraeon ysgol, ac yn cynnwys cyfathrebu a pherthnasoedd proffesiynol, deall datblygiad plant a phobl ifanc, diogelu, cynllunio, darparu ac adolygu Rhaglen Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol.
Ystod Oedran
Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 16 oed i ymgymryd â’r cymhwyster hwn.
Cwmpas Daearyddol
Mae’r cymhwyster hwn ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Gofynion Mynediad i Ddysgwyr
Nid yw Focus Awards yn gosod unrhyw ofynion mynediad eraill, ond gall y ganolfan bennu neu ofyn am feini prawf ychwanegol.
Llwybrau Cynnydd
Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o’r cymhwyster hwn ddatblygu eu sgiliau ymhellach drwy’r canlynol:
- Tystysgrif Lefel 3 Focus Awards mewn Cynllunio a Darparu Hyfforddiant Personol
Strwythur y Cymhwyster
I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch yma.
Unedau Gorfodol:
Teitl yr Uned | Cyfeirnod yr Uned | Lefel | Credydau | Oriau Dysgu dan Arweiniad |
Cyfathrebu a pherthnasoedd proffesiynol â phlant, pobl ifanc ac oedolion | F/601/3327 | 3 | 2 | 10 |
Ysgolion fel sefydliadau | A/601/3326 | 3 | 3 | 15 |
Deall Datblygiad Plant a Phobl Ifanc | L/601/1693 | 3 | 4 | 30 |
Deall Sut i Ddiogelu Lles Plant a Phobl Ifanc | Y/601/1695 | 3 | 3 | 25 |
Cefnogi asesu ar gyfer dysgu | A/601/4072 | 3 | 4 | 20 |
Cynllunio Rhaglen Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol | J/505/1759 | 3 | 5 | 29 |
Cyflwyno Rhaglen Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol | F/505/1761 | 3 | 4 | 22 |
Adolygu Darpariaeth Rhaglen Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol | J/505/1762 | 3 | 3 | 13 |