QRN -601/5883/9 Ffi £49
Diben y Cymhwyster:
Mae Tystysgrif Lefel 2 Focus Awards mewn Hyfforddi Ffitrwydd (RQF) wedi’i hanelu at y dysgwyr hynny sy’n gweithio neu sy’n dymuno gweithio yn y sector Ymarfer Corff a Ffitrwydd.
Mae Tystysgrif Lefel 2 Focus Awards mewn Hyfforddi Ffitrwydd (RQF) yn cynnig cyfle i ddysgwyr ennill cymhwyster mewn hyfforddi ffitrwydd drwy bedwar llwybr: Ymarfer Corff mewn Campfa, Ymarfer Corff i Gerddoriaeth, Ymarfer Corff mewn D?r, ac Ymarfer Corff a Gweithgarwch Corfforol i Blant. Mae pob llwybr yn galluogi dysgwyr i ddatblygu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnynt wrth gynllunio a hyfforddi cleientiaid neu grwpiau o gyfranogwyr mewn gweithgarwch corfforol.
Ystod Oedran
Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 16 oed i ymgymryd â’r cymhwyster hwn.
Cwmpas Daearyddol
Mae’r cymhwyster hwn ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Gofynion Mynediad i Ddysgwyr
Nid yw Focus Awards yn gosod unrhyw ofynion mynediad eraill, ond gall y ganolfan bennu neu ofyn am feini prawf ychwanegol.
Llwybrau Cynnydd
Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o’r cymhwyster hwn ddatblygu eu sgiliau ymhellach drwy’r canlynol:
- Diploma Lefel 3 Focus Awards Ymarferydd mewn Hyfforddiant Personol (RQF)
- Tystysgrif Lefel 3 Focus Awards mewn Cynllunio a Darparu Hyfforddiant Personol (RQF)
- Diploma NVQ Lefel 3 Focus Awards mewn Hyfforddiant Personol (RQF)
Strwythur y Cymhwyster
Rhaid i ddysgwyr gyflawni pob un o’r 4 uned orfodol (14 credyd) a 2 uned ddewisol (9 – 11 credyd) mewn llwybr dewisol.
I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch yma.