Diploma NVQ Lefel 2 Focus Awards mewn Hyfforddi Ymarfer Corff a Ffitrwydd (RQF)

QRN – 601/4885/8                                                          Fee £69

 

Diben y Cymhwyster:

Nod Diploma NVQ Lefel 2 Focus Awards mewn Hyfforddi Ymarfer Corff a Ffitrwydd (RQF) yw darparu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd sydd eu hangen ar y dysgwr i ennill cymhwyster yn y gweithle sy’n ymwneud â’i rôl fel hyfforddwr ffitrwydd. Cymhwyster ar sail cymhwysedd ar gyfer hyfforddwyr campfa yw Diploma NVQ Lefel 2 Focus Awards mewn Hyfforddi Ymarfer Corff a Ffitrwydd (RQF). Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at yr hyfforddwyr hynny sydd am ddatblygu eu gyrfa yn y diwydiant ffitrwydd drwy brofi eu cymhwysedd ar Lefel 2.

Ystod Oedran

Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 16 oed i ymgymryd â’r cymhwyster hwn.

Cwmpas Daearyddol

Mae’r cymhwyster hwn ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Gofynion Mynediad i Ddysgwyr

  • Mae’r cymhwyster yn agored i unrhyw un sy’n gallu cyrraedd y safonau gofynnol.
  • Mae’r cymhwyster yn gofyn am ymdrech gorfforol ac mae cyfranogiad unigol yn hanfodol, felly mae angen rhywfaint o ffitrwydd corfforol.
  • Cynhwysir elfen o gyfathrebu (trafod, cyflwyno, darllen, ac ysgrifennu) a chymhwyso rhifau, felly dylai’r dysgwyr feddu ar sgiliau sylfaenol mewn cyfathrebu a rhifedd ar Lefelau 3 a 2 yn y drefn honno.

Llwybrau Cynnydd

Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o’r cymhwyster hwn ddatblygu eu sgiliau ymhellach drwy’r canlynol:
  • Meistr Diploma Lefel 3 Focus Awards mewn Hyfforddi mewn Campfa a Hyfforddiant Personol (RQF)
  • Tystysgrif Lefel 2 Focus Awards mewn Sesiynau Hyfforddi Gr?p (RQF)
  • Diploma Lefel 3 Focus Awards – Arbenigwr mewn Hyfforddiant Personol (RQF)
  • Tystysgrif Lefel 3 Focus Awards mewn Cynllunio a Darparu Hyfforddiant Personol (RQF)

Strwythur y Cymhwyster

Er mwyn cyflawni Diploma NVQ Lefel 2 Focus Awards mewn Hyfforddi Ymarfer Corff a Ffitrwydd (RQF) yn llwyddiannus, mae’n rhaid i ddysgwyr gyflawni pob un o’r pum uned orfodol (22 o gredydau) a dwy uned ddewisol (o leiaf 15 o gredydau) mewn llwybr a ddewisir i gyflawni cyfanswm o 37 o gredydau. I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch yma.

Unedau Gorfodol

Teitl yr Uned Cyfeirnod yr Uned Lefel Credydau Oriau Dysgu dan Arweiniad
Anatomi a ffisioleg ar gyfer ymarfer corff H/600/9013 2 41 6
Gweithio gyda chleientiaid i’w helpu nhw i ddal ati i wneud ymarfer corff a gweithgarwch corfforol A/601/7361 2 25 4
Myfyrio ar eich arferion eich hun wrth ddarparu ymarfer corff a gweithgarwch corfforol, gan eu datblygu F/601/7362 2 23 4
Egwyddorion ymarfer corff, ffitrwydd ac iechyd A/600/9017 2 28 4
Hybu iechyd, diogelwch a lles mewn hamdden egnïol D/601/4484 2 30 4

Unedau dewisol

Teitl yr Uned Cyfeirnod yr Uned Lefel Credydau Oriau Dysgu dan Arweiniad
  Cynllunio a pharatoi sesiynau ymarfer corff mewn campfa   J/601/7363   2 43 9
Hyfforddi a goruchwylio ymarfer corff mewn campfa L/601/7364 2 43 8
Cynllunio a pharatoi ymarfer corff i gerddoriaeth ar gyfer gr?p R/601/7365   2 33 8
Cyfarwyddo ymarfer corff i gerddoriaeth ar gyfer gr?p Y/601/7366   2 43 8
Cynllunio a pharatoi ymarfer corff mewn d?r D/601/7367   2 35 8
Hyfforddi ymarfer corff mewn d?r H/601/7368 2 41 8
Cynllunio a pharatoi ymarfer corff a gweithgarwch corfforol sy’n gysylltiedig ag iechyd i blant K/601/7369   2 55 8
Hyfforddi ymarfer corff a gweithgarwch corfforol sy’n gysylltiedig ag iechyd i blant D/601/7370 2 40 7
                             

Sports, Leisure and Recreation