Diploma Lefel 3 Focus Awards mewn Gwaith Chwarae (NVQ) (RQF)

QRN -601/7888/7                                                                                               Ffi £79

Diben y Cymhwyster:

Diben Diploma Lefel 3 Focus Awards mewn Gwaith Chwarae (NVQ) (RQF) yw datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth y dysgwr o egwyddorion gwaith chwarae, gan gynnwys diogelu a hyrwyddo cydberthnasau cadarnhaol. Bydd y cymhwyster hefyd yn ymdrin â gwerthoedd gwaith chwarae, pwysigrwydd chwarae a gwaith chwarae ym mywydau plant a phobl ifanc. Mae Diploma Lefel 3 Focus Awards mewn Gwaith Chwarae (NVQ) (RQF) wedi’i anelu at y dysgwyr hynny sy’n gweithio mewn rôl uwch mewn lleoliadau gwaith chwarae, ac sy’n dymuno symud ymlaen i rôl o’r fath. Lle mae dysgwyr eisoes yn gweithio mewn lleoliad gwaith chwarae, gallwch ddilyn y cymhwyster hwn i gadarnhau ac ymestyn eich gwybodaeth, eich dealltwriaeth a’ch sgiliau.

Ystod Oedran

Mae mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 18 oed i ymgymryd â'r cymhwyster hwn.

Cwmpas Daearyddol

Mae’r cymhwyster hon ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Gofynion Mynediad i Ddysgwyr

Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer y cymhwyster hwn.

Llwybrau Cynnydd

Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o'r cymhwyster hwn ymgymryd â'r cymwysterau canlynol:
  • Dyfarniad a Thystysgrif Lefel 4 mewn Gwaith Chwarae (RQF)
  • Diploma Lefel 5 mewn Gwaith Chwarae (RQF)
  • Gradd mewn maes cysylltiedig, e.e. Blynyddoedd Cynnar.

Strwythur y Cymhwyster

Er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, rhaid i ddysgwr gwblhau pob un o'r saith uned orfodol. Unedau Gorfodol I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch yma.

Unedau Gorfodol

Teitl yr Uned Cyfeirnod yr Uned Lefel Oriau Dysgu dan Arweiniad Credydau
Unedau gorfodol
Deall Sut i Ddiogelu Llesiant Plant a Phobl Ifanc Y/601/1695 3 25 3
Deall Sut i Gefnogi Canlyniadau Cadarnhaol i Blant a Phobl Ifanc M/601/1699 3 25 3
Deall Chwarae Hunangyfeiriedig Plant a Phobl Ifanc L/602/1799 3 35 5
Deall Cydberthnasau yn yr Amgylchedd Chwarae A/602/1801 3 20 3
Deall Iechyd, Diogelwch a Diogeledd yn yr Amgylchedd Chwarae F/602/1802 3 15 2
Deall Sut i Gynllunio a Chefnogi Chwarae Hunangyfeiriedig Plant a Phobl Ifanc J/602/1803 3 40 5
Cyfrannu at fframwaith sefydliadol sy'n adlewyrchu anghenion ac yn amddiffyn hawliau plant a phobl ifanc L/602/1804 3 30 4
Datblygu a chynnal amgylchedd chwarae iach, saff a diogel i blant a phobl ifanc R/602/1805 3 25 3
Datblygu a hyrwyddo cydberthnasau cadarnhaol mewn amgylchedd chwarae Y/602/1806 3 22 3
Cynllunio a chefnogi chwarae hunangyfeiriedig plant a phobl ifanc D/602/1807 3 30 4
Deall Egwyddorion Gwaith Chwarae J/602/1798 3 35 4
Cymryd rhan mewn datblygiad personol mewn lleoliadau iechyd, gofal cymdeithasol neu blant a phobl ifanc A/601/1429 3 10 3
Dewisol
Gweithio gyda chydweithwyr mewn tîm gwaith chwarae J/602/1834 3 65 10
Ymgysylltu â rhieni, gofalwyr a theuluoedd mewn amgylchedd chwarae L/602/1835 3 65 10
Gweinyddu darpariaeth gwaith chwarae R/602/1836 3 60 8
Chwarae cynhwysol, gweithio gyda phlant a phobl ifanc anabl Y/602/1837 4 79 11
Hyrwyddo eich sefydliad eich hun yn y gymuned D/602/1838 3 85 13
Cyfrannu at werthuso, datblygu a hyrwyddo gwasanaethau H/602/1839 4 85 11
Trefnu a goruchwylio teithiau Y/602/1840 3 45 7
Rheoli cyllideb D/602/1841 3 85 11
Recriwtio, dewis a chadw cydweithwyr H/602/1842 5 85 12

Child Development and wellbeing