QRN -603/5231/0 Ffi £49
Diben y Cymhwyster:
Nod y cymhwyster hwn yw darparu’r wybodaeth a’r sgiliau i ddysgwyr gynllunio, darparu a gwerthuso sesiynau hyfforddi ffitrwydd diogel ac effeithiol heb oruchwyliaeth mewn amgylchedd campfa.
Ystod Oedran
Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 16 oed o leiaf i ymgymryd â’r cymhwyster hwn.
Cwmpas Daearyddo
Mae’r cymhwyster hwn ar gael yng Nghymru a Lloegr.
Gofynion Mynediad i Ddysgwyr
- Argymhellir yn gryf y dylid meddu ar rywfaint o brofiad o ymarferion mewn campfa, gan gynnwys pwysau rhydd
- Mae’r cymhwyster yn gofyn am ymdrech gorfforol ac mae cyfranogiad unigol yn hanfodol; felly, mae angen rhywfaint o ffitrwydd corfforol
- Cynhwysir elfen o gyfathrebu hefyd (trafod, cyflwyno, darllen ac ysgrifennu) a dylai’r dysgwyr feddu ar sgiliau sylfaenol mewn cyfathrebu
Llwybrau Cynnydd
Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o’r cymhwyster hwn ddatblygu eu sgiliau ymhellach drwy’r canlynol:
- Dyfarniad Lefel 2 Focus Awards mewn Hyfforddi Dymbelau (RQF)
- Dyfarniad Lefel 2 Focus Awards mewn Hyfforddi Sesiynau Cylchol (RQF)
- Tystysgrif Lefel 3 Focus Awards mewn Cynllunio a Darparu Hyfforddiant Personol (RQF)
- Tystysgrif Lefel 2 Focus Awards mewn Hyfforddi Cryfder a Chyflyru ar gyfer Chwaraeon (RQF)
Strwythur y Cymhwyster
Rhaid i ddysgwyr gwblhau
pob un o’r 6 uned orfodol i gyflawni cyfanswm o 24 credyd.
I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch
yma.
Unedau Gorfodol
Teitl yr Uned |
Cyfeirnod yr Uned |
Lefel |
Credydau |
Oriau Dysgu dan Arweiniad |
Egwyddorion iechyd a lles ar gyfer ymarfer corff, ffitrwydd ac iechyd |
Y/617/8588 |
2 |
4 |
28 |
Anatomi, ffisioleg a chinesioleg ar gyfer ymarfer corff ac iechyd |
D/617/8589 |
2 |
6 |
41 |
Gwybod sut i gefnogi cleientiaid i reoli eu ffordd o fyw a gwella’u cymhelliant i ymgymryd ag ymarfer corff a gweithgarwch corfforol |
R/617/8590 |
2 |
2 |
13 |
Egwyddorion ymarfer proffesiynol ac iechyd a diogelwch mewn amgylchedd ffitrwydd |
Y/617/8591 |
2 |
2 |
16 |
Cynllunio ymarfer proffesiynol gydag ymgyngoriadau ac asesiadau effeithiol ar gyfer sesiynau ymarfer corff mewn campfa |
D/617/8592 |
2 |
4 |
23 |
Hyfforddi ymarfer proffesiynol, a goruchwylio ymarfer corff yn effeithiol ar gyfer sesiynau ymarfer corff mewn campfa |
H/617/8593 |
2 |
6 |
37 |
Sports, Leisure and Recreation