QRN – 601/4885/8 Fee £69
Diben y Cymhwyster:
Nod Diploma NVQ Lefel 2 Focus Awards mewn Hyfforddi Ymarfer Corff a Ffitrwydd (RQF) yw darparu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd sydd eu hangen ar y dysgwr i ennill cymhwyster yn y gweithle sy’n ymwneud â’i rôl fel hyfforddwr ffitrwydd.
Cymhwyster ar sail cymhwysedd ar gyfer hyfforddwyr campfa yw Diploma NVQ Lefel 2 Focus Awards mewn Hyfforddi Ymarfer Corff a Ffitrwydd (RQF). Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at yr hyfforddwyr hynny sydd am ddatblygu eu gyrfa yn y diwydiant ffitrwydd drwy brofi eu cymhwysedd ar Lefel 2.
Ystod Oedran
Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 16 oed i ymgymryd â’r cymhwyster hwn.
Cwmpas Daearyddol
Mae’r cymhwyster hwn ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Gofynion Mynediad i Ddysgwyr
- Mae’r cymhwyster yn agored i unrhyw un sy’n gallu cyrraedd y safonau gofynnol.
- Mae’r cymhwyster yn gofyn am ymdrech gorfforol ac mae cyfranogiad unigol yn hanfodol, felly mae angen rhywfaint o ffitrwydd corfforol.
- Cynhwysir elfen o gyfathrebu (trafod, cyflwyno, darllen, ac ysgrifennu) a chymhwyso rhifau, felly dylai’r dysgwyr feddu ar sgiliau sylfaenol mewn cyfathrebu a rhifedd ar Lefelau 3 a 2 yn y drefn honno.
Llwybrau Cynnydd
Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o’r cymhwyster hwn ddatblygu eu sgiliau ymhellach drwy’r canlynol:
- Meistr Diploma Lefel 3 Focus Awards mewn Hyfforddi mewn Campfa a Hyfforddiant Personol (RQF)
- Tystysgrif Lefel 2 Focus Awards mewn Sesiynau Hyfforddi Gr?p (RQF)
- Diploma Lefel 3 Focus Awards – Arbenigwr mewn Hyfforddiant Personol (RQF)
- Tystysgrif Lefel 3 Focus Awards mewn Cynllunio a Darparu Hyfforddiant Personol (RQF)
Strwythur y Cymhwyster
Er mwyn cyflawni Diploma NVQ Lefel 2 Focus Awards mewn Hyfforddi Ymarfer Corff a Ffitrwydd (RQF) yn llwyddiannus, mae’n rhaid i ddysgwyr gyflawni pob un o’r pum uned orfodol (22 o gredydau) a dwy uned ddewisol (o leiaf 15 o gredydau) mewn llwybr a ddewisir i gyflawni cyfanswm o 37 o gredydau.
I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch yma.
Unedau Gorfodol
Teitl yr Uned | Cyfeirnod yr Uned | Lefel | Credydau | Oriau Dysgu dan Arweiniad |
Anatomi a ffisioleg ar gyfer ymarfer corff | H/600/9013 | 2 | 41 | 6 |
Gweithio gyda chleientiaid i’w helpu nhw i ddal ati i wneud ymarfer corff a gweithgarwch corfforol | A/601/7361 | 2 | 25 | 4 |
Myfyrio ar eich arferion eich hun wrth ddarparu ymarfer corff a gweithgarwch corfforol, gan eu datblygu | F/601/7362 | 2 | 23 | 4 |
Egwyddorion ymarfer corff, ffitrwydd ac iechyd | A/600/9017 | 2 | 28 | 4 |
Hybu iechyd, diogelwch a lles mewn hamdden egnïol | D/601/4484 | 2 | 30 | 4 |
Unedau dewisol
Teitl yr Uned | Cyfeirnod yr Uned | Lefel | Credydau | Oriau Dysgu dan Arweiniad |
Cynllunio a pharatoi sesiynau ymarfer corff mewn campfa |
J/601/7363
|
2 | 43 | 9 |
Hyfforddi a goruchwylio ymarfer corff mewn campfa | L/601/7364 | 2 | 43 | 8 |
Cynllunio a pharatoi ymarfer corff i gerddoriaeth ar gyfer gr?p | R/601/7365
|
2 | 33 | 8 |
Cyfarwyddo ymarfer corff i gerddoriaeth ar gyfer gr?p | Y/601/7366
|
2 | 43 | 8 |
Cynllunio a pharatoi ymarfer corff mewn d?r | D/601/7367
|
2 | 35 | 8 |
Hyfforddi ymarfer corff mewn d?r | H/601/7368 | 2 | 41 | 8 |
Cynllunio a pharatoi ymarfer corff a gweithgarwch corfforol sy’n gysylltiedig ag iechyd i blant | K/601/7369
|
2 | 55 | 8 |
Hyfforddi ymarfer corff a gweithgarwch corfforol sy’n gysylltiedig ag iechyd i blant | D/601/7370 | 2 | 40 | 7 |