Diben y Cymhwyster:
Nod Diploma Lefel 3 Focus Awards mewn Datblygu Chwaraeon yw cydnabod cymhwysedd yn y gweithle i ddysgwyr mewn rôl datblygu chwaraeon yn y sector hamdden egnïol.
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at y canlynol:
- Dysgwyr 16+ oed sydd â’r cyfle i ddilyn gyrfa yn y diwydiant hamdden egnïol fel swyddog datblygu chwaraeon.
- Arweinwyr gweithgareddau a hoffai gael cymhwyster i’w helpu i symud ymlaen i’r lefel nesaf fel swyddog datblygu chwaraeon (rhaid rhoi digon o gyfrifoldebau i ddysgwyr er mwyn cynhyrchu’r dystiolaeth angenrheidiol ar gyfer eu hunedau dewisol).
- Swyddogion datblygu chwaraeon cyfredol a hoffai gael cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol i ffurfioli eu profiad a’u sgiliau yn eu rôl gyfredol.
- Cyfleusterau hamdden egnïol (canolfan hamdden, cynghorau lleol ac ati…) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’w staff datblygu chwaraeon presennol feddu ar gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol er mwyn gwella eu rheolaeth gyffredinol o’r staff, gwella cysylltiadau yn y gymuned a gwasanaeth cwsmeriaid cyffredinol ar draws eu sefydliadau.
Ystod Oedran
Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 16 oed i ymgymryd â’r cymhwyster hwn. Efallai y bydd angen i ddysgwyr rhwng 16 a 18 oed gael eu goruchwylio yn ystod y cymhwyster hwn, ac ar ôl ei gwblhau.
Cwmpas Daearyddol
Mae’r cymhwyster hwn ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Gofynion Mynediad i Ddysgwyr
Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer y cymhwyster hwn.
Llwybrau Cynnydd
Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o’r cymhwyster hwn ymgymryd â’r cymwysterau canlynol:
- Cymwysterau NVQ Generig mewn Rheolaeth ar Lefelau 3 i 5
- Tystysgrif Lefel 3 mewn hyfforddiant personol
Strwythur y Cymhwyster
I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch yma.