Diben y Cymhwyster:
Diben Diploma Lefel 3 Focus Awards mewn Atgyfeirio at Ymarfer Corff yw rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i’r dysgwr o ran defnyddio egwyddorion anatomeg a ffisioleg, cyflyrau meddygol, ymarfer proffesiynol a maeth. Bydd dysgwyr yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gynllunio a hyfforddi rhaglenni addas ar gyfer cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio i wneud ymarfer corff.
Mae Diploma Lefel 3 Focus Awards mewn Atgyfeirio at Ymarfer Corff (RQF) wedi’i anelu at y dysgwyr hynny sy’n gweithio yn y sector Ffitrwydd a Hamdden Egnïol ar hyn o bryd neu sy’n dymuno gweithio yn y sector hwnnw.
Ystod Oedran
Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 16 oed i ymgymryd â’r cymhwyster hwn.
Cwmpas Daearyddol
Mae’r cymhwyster hwn ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Gofynion Mynediad i Ddysgwyr
Rhaid i ddysgwyr fod wedi ennill cymhwyster rhagofynnol naill ai mewn Hyfforddi Ffitrwydd (wedi’i leoli yn y gampfa, ymarfer corff i gerddoriaeth neu yn y d?r) ar Lefel 2 neu Hyfforddiant Personol ar Lefel 3.
Llwybrau Cynnydd
Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o’r cymhwyster hwn ddatblygu eu sgiliau ymhellach drwy’r canlynol:
- Tystysgrif Lefel 4 Focus Awards mewn Datblygu Strategaethau Gweithgarwch Corfforol a Rheoli Pwysau ar gyfer Cleientiaid Diabetig (RQF)
- Tystysgrif Lefel 4 Focus Awrds mewn Datblygu Strategaethau Gweithgarwch Corfforol a Rheoli Pwysau ar gyfer Cleientiaid Gordew (RQF)
- Tystysgrif Lefel 4 Focus Awards mewn Darparu Gweithgarwch Corfforol i Unigolion â Chyflyrau Iechyd Meddwl (RQF)
Strwythur y Cymhwyster
I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch yma.