Tystysgrif Lefel 4 Focus Awards ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch (RQF)

QRN -601/8533/8                                                                                               Ffi £52

Diben y Cymhwyster:

Mae Tystysgrif Lefel 4 Focus Awards ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch (RQF) wedi'i hanelu at y dysgwyr hynny sy'n gweithio fel cynorthwyydd addysgu ar hyn o bryd sy'n dymuno symud ymlaen i statws Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch. Bydd Tystysgrif Lefel 4 Focus Awards ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch (RQF) yn rhoi’r wybodaeth a'r ddealltwriaeth i ddysgwyr wrth ddadansoddi a mynd i'r afael â'r gwahanol heriau y mae cynorthwywyr ystafell ddosbarth yn debygol o ddod ar eu traws. Bydd dysgwyr hefyd yn deall gweithio gydag unigolion a chyda grwpiau bach yn ogystal â chael cipolwg hanfodol ar gefnogi disgyblion ag anghenion addysgol arbennig (AAA).

Ystod Oedran

Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 16 oed i ymgymryd â' r cymhwyster hwn.

Cwmpas Daearyddol

Mae'r cymhwyster hwn ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Gofynion Mynediad i Ddysgwyr

Mae'n ofynnol i ddysgwyr fod yn gweithio mewn ysgol fel cynorthwyydd addysgu. Nid yw Focus Awards yn gosod unrhyw ofynion mynediad eraill, ond efallai y bydd gan ddarparwyr hyfforddiant neu golegau eu canllawiau eu hunain.

Llwybrau Cynnydd

Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o'r cymhwyster hwn wella eu sgiliau ymhellach drwy'r canlynol:
  • Dyfarniad Lefel 3 Focus Awards mewn Addysg a Hyfforddiant (RQF)
  • Tystysgrif Lefel 4 Focus Awards mewn Addysg a Hyfforddiant (RQF)
  • Diploma Lefel 5 Focus Awards mewn Addysg a Hyfforddiant (RQF)

Strwythur y Cymhwyster

Er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, rhaid i ddysgwr gwblhau pob un o'r saith uned orfodol. Unedau Gorfodol I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch yma.

Unedau Gorfodol
Teitl yr Uned Cyfeirnod yr Uned Lefel Credydau Oriau Dysgu dan Arweiniad
Gwybodaeth a Datblygiad Proffesiynol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch D/508/2483 4 4 12
Datblygiad a Lles Plant H/508/2484 4 4 12
Cefnogi Plant a Phobl Ifanc ag Anghenion Addysgol Arbennig K/508/2485 4 4 13
Hyrwyddo Ymddygiad Cadarnhaol Plant a Phobl Ifanc A/508/2605 4 4 12
Gweithio gydag unigolion a grwpiau o ddysgwyr T/508/2487 4 8 13
Perthnasoedd gwaith cadarnhaol T/508/2490 4 4 13
Cynllunio, monitro, gweithredu ac asesu cwricwlwm T/508/2490 4 8 12

Direct Learning Support