Dyfarniad Lefel 3 Focus Awards mewn Ymwybyddiaeth o Gyflogaeth mewn Hamdden Egnïol a Dysgu (RQF)

QRN - 601/4969/3                                                                                                 Ffi £29

Diben y Cymhwyster:

Nod Dyfarniad Lefel 3 Focus Awards mewn Ymwybyddiaeth o Gyflogaeth mewn Hamdden Egnïol a Dysgu (RQF) yw rhoi dealltwriaeth a gwybodaeth i ddysgwyr am y sector hamdden egnïol yn ei gyfanrwydd, a hefyd eu hawliau a’u cyfrifoldebau yn eu sefydliad eu hunain. Mae Dyfarniad Lefel 3 Focus Awards mewn Ymwybyddiaeth o Gyflogaeth mewn Hamdden Egnïol a Dysgu (RQF) wedi’i anelu at y dysgwyr hynny sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, yn y sector hamdden egnïol a’r rhai sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o hawliau a chyfrifoldebau cyflogeion yn y sector ymhellach. Mae’r cymhwyster hefyd wedi’i anelu at y dysgwyr hynny sy’n ymgymryd ag uwch brentisiaeth ar gyfer unrhyw un o’r llwybrau hamdden egnïol a dysgu.

Ystod Oedran

Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 16 oed i ymgymryd â’r cymhwyster hwn.

Cwmpas Daearyddol

Mae’r cymhwyster hwn ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Gofynion Mynediad i Ddysgwyr

Nid yw Focus Awards yn gosod unrhyw ofynion mynediad eraill, ond gall y ganolfan bennu neu ofyn am feini prawf ychwanegol.

Llwybrau Cynnydd

Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o’r cymhwyster hwn ddatblygu eu sgiliau ymhellach drwy’r canlynol:
  • Tystysgrif Lefel 3 Focus Awards mewn Cynllunio a Darparu Hyfforddiant Personol (RQF)
  • Diploma NVQ Lefel 3 Focus Awards mewn Rheoli Hamdden (RQF)
  • Tystysgrif Lefel 3 Focus Awards mewn Rheoli Hamdden (RQF)

Strwythur y Cymhwyster

Er mwyn cwblhau Dyfarniad Lefel 3 Focus Awards mewn Ymwybyddiaeth o Gyflogaeth mewn Hamdden Egnïol a Dysgu (RQF), rhaid i ddysgwyr gwblhau 3 uned orfodol, gan gyflawni cyfanswm o 8 credyd. I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch yma.

Unedau Gorfodol
Teitl yr Uned Cyfeirnod yr Uned Lefel Credydau Oriau Dysgu dan Arweiniad
Deall Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth J/600/0840 2 2 15
Deall y Sector Hamdden Egnïol a Dysgu F/600/1758 3 3 23
Deall y Sefydliad sy’n Cyflogi R/600/1764 3 3 23

Sports, Leisure and Recreation