Dyfarniad Lefel 2 Focus Awards mewn Ymwybyddiaeth o Gyflogaeth mewn Hamdden Egnïol a Dysgu (RQF)

QRN -601/4968/1                                                                                                        Ffi £19

Diben y Cymhwyster:

Nod Dyfarniad Lefel 2 Focus Awards mewn Ymwybyddiaeth o Gyflogaeth mewn Hamdden Egnïol a Dysgu (RQF) yw rhoi dealltwriaeth o’r sector hamdden egnïol yn ei gyfanrwydd i ddysgwyr, a hefyd eu hawliau a’u cyfrifoldebau yn eu sefydliad eu hunain.

Ystod Oedran

Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 16 oed i ymgymryd â’r cymhwyster hwn.

Cwmpas Daearyddol

Mae’r cymhwyster hwn ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Gofynion Mynediad i Ddysgwyr

Nid yw Focus Awards yn gosod unrhyw ofynion mynediad eraill, ond gall y ganolfan bennu neu ofyn am feini prawf ychwanegol.

Llwybrau Cynnydd

Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o’r cymhwyster hwn ddatblygu eu sgiliau ymhellach drwy’r canlynol:
  • Tystysgrif Lefel 2 Focus Awards mewn Cynllunio a Darparu Ymarfer Corff mewn Campfa
  • Tystysgrif Lefel 3 Focus Awards mewn Cynllunio a Darparu Hyfforddiant Personol
  • Dyfarniad Lefel 3 Focus Awards mewn Ymwybyddiaeth o Gyflogaeth mewn Hamdden Egnïol a Dysgu (RQF)
  • Diploma NVQ Lefel 3 Focus Awards mewn Rheoli Hamdden (RQF)

Strwythur y Cymhwyster

Er mwyn llwyddo i ennill Dyfarniad Lefel 2 Focus Awards mewn Ymwybyddiaeth o Gyflogaeth mewn Hamdden Egnïol a Dysgu (RQF), rhaid i ddysgwyr ennill 6 chredyd o’r 3 uned orfodol. I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch yma.

Unedau Gorfodol
Teitl yr Uned Cyfeirnod yr Uned Lefel Credydau Oriau Dysgu dan Arweiniad
Deall y Sector Hamdden Egnïol a Dysgu Y/600/1734 2 2 15
Deall Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth J/600/0840 2 2 15
Deall y Sefydliad sy’n Cyflogi D/600/1735 2 2 15

Sports, Leisure and Recreation