Tystysgrif Lefel 2 Focus Awards mewn Cynllunio a Darparu Ymarfer Corff mewn Campfa (RQF)

QRN -603/5231/0                                                                                                                           Ffi £49

Diben y Cymhwyster:

Nod y cymhwyster hwn yw darparu’r wybodaeth a’r sgiliau i ddysgwyr gynllunio, darparu a gwerthuso sesiynau hyfforddi ffitrwydd diogel ac effeithiol heb oruchwyliaeth mewn amgylchedd campfa.

Ystod Oedran

Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 16 oed o leiaf i ymgymryd â’r cymhwyster hwn.

Cwmpas Daearyddo

Mae’r cymhwyster hwn ar gael yng Nghymru a Lloegr.

Gofynion Mynediad i Ddysgwyr

  • Argymhellir yn gryf y dylid meddu ar rywfaint o brofiad o ymarferion mewn campfa, gan gynnwys pwysau rhydd
  • Mae’r cymhwyster yn gofyn am ymdrech gorfforol ac mae cyfranogiad unigol yn hanfodol; felly, mae angen rhywfaint o ffitrwydd corfforol
  • Cynhwysir elfen o gyfathrebu hefyd (trafod, cyflwyno, darllen ac ysgrifennu) a dylai’r dysgwyr feddu ar sgiliau sylfaenol mewn cyfathrebu

Llwybrau Cynnydd

Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o’r cymhwyster hwn ddatblygu eu sgiliau ymhellach drwy’r canlynol:
  • Dyfarniad Lefel 2 Focus Awards mewn Hyfforddi Dymbelau (RQF)
  • Dyfarniad Lefel 2 Focus Awards mewn Hyfforddi Sesiynau Cylchol (RQF)
  • Tystysgrif Lefel 3 Focus Awards mewn Cynllunio a Darparu Hyfforddiant Personol (RQF)
  • Tystysgrif Lefel 2 Focus Awards mewn Hyfforddi Cryfder a Chyflyru ar gyfer Chwaraeon (RQF)

Strwythur y Cymhwyster

Rhaid i ddysgwyr gwblhau pob un o’r 6 uned orfodol i gyflawni cyfanswm o 24 credyd. I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch yma.

Unedau Gorfodol

Teitl yr Uned Cyfeirnod yr Uned Lefel Credydau Oriau Dysgu dan Arweiniad
Egwyddorion iechyd a lles ar gyfer ymarfer corff, ffitrwydd ac iechyd Y/617/8588 2 4 28
Anatomi, ffisioleg a chinesioleg ar gyfer ymarfer corff ac iechyd D/617/8589 2 6 41
Gwybod sut i gefnogi cleientiaid i reoli eu ffordd o fyw a gwella’u cymhelliant i ymgymryd ag ymarfer corff a gweithgarwch corfforol R/617/8590 2 2 13
Egwyddorion ymarfer proffesiynol ac iechyd a diogelwch mewn amgylchedd ffitrwydd Y/617/8591 2 2 16
Cynllunio ymarfer proffesiynol gydag ymgyngoriadau ac asesiadau effeithiol ar gyfer sesiynau ymarfer corff mewn campfa D/617/8592 2 4 23
Hyfforddi ymarfer proffesiynol, a goruchwylio ymarfer corff yn effeithiol ar gyfer sesiynau ymarfer corff mewn campfa H/617/8593 2 6 37

Sports, Leisure and Recreation