Tystysgrif Lefel 2 Focus Awards mewn Cefnogi Dysgu mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion (RQF)

QRN - 601//8047/X                                                                                                                              Ffi £49

Diben y Cymhwyster:

Nod Tystysgrif Lefel 2 Focus Awards mewn Cefnogi Dysgu mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion (RQF) yw datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth y dysgwr o egwyddorion addysgu addysg gorfforol mewn ysgolion a deall y ddeddfwriaeth gysylltiedig.

Ystod Oedran

Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 16 oed i ymgymryd â'r cymhwyster hwn.

Cwmpas Daearyddol

Mae'r cymhwyster hwn ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Gofynion Mynediad i Ddysgwyr

Dylai dysgwyr fod yn gymwys mewn llythrennedd a rhifedd i helpu gydag elfennau cyfathrebu. Mae hyn yn ôl disgresiwn y ganolfan gan y gallent benderfynu defnyddio dulliau profi diagnostig i ganfod sut y gallant gefnogi dysgwyr.

Llwybrau Cynnydd

Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o’r cymhwyster hwn ddatblygu eu sgiliau ymhellach drwy'r canlynol:
  • Tystysgrif Lefel 3 Focus Awards mewn Cefnogi’r Ddarpariaeth o Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion (RQF)
  • Diploma NVQ Lefel 3 Focus Awards mewn Cefnogi’r Ddarpariaeth o Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion (RQF)

Strwythur y Cymhwyster

Er mwyn llwyddo i ennill Tystysgrif Lefel 2 Focus Awards mewn Cefnogi Dysgu mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion (RQF), rhaid i ddysgwyr gwblhau pob uned orfodol i gyflawni cyfanswm o 18 credyd. I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch yma.  

Teitl yr Uned

Cyfeirnod yr Uned Lefel Credydau

Oriau Dysgu dan Arweiniad

Paratoi ar gyfer gweithgareddau Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion A/502/8494 2 2 20
Egwyddorion addysgu Addysg Gorfforol a hyfforddi Chwaraeon mewn Ysgolion D/502/8455 2 2 19
Arwain gweithgareddau Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion F/502/8496 2 2 14
Cwblhau ac adolygu gweithgareddau Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion J/502/8496 2 2 14
Egwyddorion ymarfer diogel mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion K/502/8460 2 2 18
Deall Deddfwriaeth Allweddol sy'n ymwneud ag Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion L/502/8449 2 2 18
Egwyddorion Cynhwysiant mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion M/502/8539 2 2 17
Egwyddorion Datblygiad Plant trwy Symud T/502/8462 2 2 18
Hyrwyddo Iechyd a Lles Gydol Oes J/502/8479 2 2 20

Direct Learning support