Diploma Lefel 3 Focus Awards mewn Hyfforddiant Personol (RQF)

QRN - 601/4888/3                                                                                                                              Ffi £69
 

Diben y Cymhwyster:

Diben y cymhwyster hwn yw darparu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd sydd eu hangen ar ddysgwyr i weithio heb oruchwyliaeth fel hyfforddwr personol ym maes chwaraeon a hamdden egnïol. Bwriedir Diploma Lefel 3 Focus Awards mewn Hyfforddiant Personol (RQF) ar gyfer hyfforddwyr ymarfer corff sy’n gallu cynllunio, darparu a gwerthuso rhaglenni gweithgarwch corfforol yn annibynnol a heb oruchwyliaeth uniongyrchol.

Ystod Oedran

Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 16 oed i ymgymryd â’r cymhwyster hwn.

Cwmpas Daearyddol

Mae’r cymhwyster hwn ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Gofynion Mynediad i Ddysgwyr

Argymhellir rhywfaint o brofiad o ymarferion campfa, gan gynnwys pwysau rhydd, yn gryf. Mae’r cymhwyster yn gofyn am ymdrech gorfforol ac mae cyfranogiad unigol yn hanfodol; felly, mae lefel o ffitrwydd corfforol yn angenrheidiol. Ceir elfen o gyfathrebu (trafod, cyflwyno, darllen ac ysgrifennu) hefyd, a dylai fod gan ddysgwyr sgiliau cyfathrebu sylfaenol ar lefel 2.

Strwythur y Cymhwyster

Er mwyn ennill Diploma Lefel 3 Focus Awards mewn Hyfforddiant Personol, mae’n rhaid i ddysgwyr gwblhau’r 9 uned orfodol ganlynol. Os bydd y dysgwr yn dymuno, gall hefyd gwblhau’r uned ddewisol ychwanegol

Llwybrau Cynnydd

Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o’r cymhwyster hwn ymgymryd â’r cymwysterau canlynol: I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch yma.  

Teitl yr Uned Cyfeirnod yr Uned Lefel Credydau Oriau Dysgu dan Arweiniad
Unedau Gorfodol
Egwyddorion ymarfer corff, ffitrwydd ac iechyd A/600/9017 2 4 28
Anatomeg a ffisioleg ar gyfer ymarfer corff ac iechyd A/600/9051 3 6 43
Hybu iechyd, diogelwch a lles mewn hamdden egnïol. D/601/4484 2 4 30
Myfyrio ar eich arferion eich hun wrth ddarparu ymarfer corff a gweithgarwch corfforol a’u datblygu F/601/7362 2 4 23
Dylunio, rheoli ac addasu rhaglen hyfforddiant personol gyda chleientiaid H/601/7760 3 6 30
Ysgogi cleientiaid i gynnal ymlyniad hirdymor i ymarfer corff a gweithgarwch corfforol K/601/7758 3 4 15
Darparu ymarfer corff a gweithgarwch corfforol yn rhan o raglen hyfforddiant personol K/601/7761 3 10 70
Gwerthuso rhaglenni ymarfer corff a gweithgarwch corfforol M/601/7759 3 3 14
Cymhwyso egwyddorion maetheg i gefnogi nodau cleientiaid yn rhan o raglen ymarfer corff a gweithgarwch corfforol M/601/7762 3 7 42
Uned Ychwanegol
Cynllunio, marchnata a gwerthu gwasanaethau T/601/7763 3 5 26

Sports, Leisure and Recreation