Tystysgrif Lefel 4 Focus Awards mewn Addysg a Hyfforddiant (RQF)

QRN -     601/6341/0                                                                                Ffi £66

Diben y Cymhwyster:

Mae Tystysgrif Lefel 4 Focus Awards mewn Addysg a Hyfforddiant (RQF) ar gyfer y rhai sydd am ymgymryd â rôl addysgu ac ar gyfer y rhai sydd wedi gweithio mewn asesu rolau ac sydd am symud ymlaen i gymhwyster addysgu. Mae’r cymhwyster hefyd yn addas ar gyfer athrawon dan hyfforddiant yn ogystal â’r rhai sydd â phrofiad o ymgymryd â rôl addysgu. Mae Tystysgrif Lefel 4 Focus Awards mewn Addysg a Hyfforddiant (RQF) yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i ddysgwyr o ddarparu addysg a hyfforddiant, asesu dysgwyr, cynllunio mewn addysg a hyfforddiant, defnyddio adnoddau wrth ddarparu addysg a hyfforddiant a deall y rolau a’r cyfrifoldebau ym meysydd addysg a hyfforddiant.

Ystod Oedran

Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 19 oed i ymgymryd â’r cymhwyster hwn.

Cwmpas Daearyddol

Mae’r cymhwyster hwn ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Gofynion Mynediad i Ddysgwyr

Nid yw Focus Awards yn gosod unrhyw ofynion mynediad eraill, ond gallai’r ganolfan bennu neu ofyn am feini prawf ychwanegol.

Llwybrau Cynnydd

Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o’r cymhwyster hwn ddatblygu eu sgiliau ymhellach drwy’r canlynol:
  • Diploma Lefel 5 Focus Awards mewn Addysg a Hyfforddiant (RQF)

Strwythur y Cymhwyster

Rhaid i ddysgwyr gyflawni 5 uned orfodol sy’n werth cyfanswm o 21 o gredydau. Rhaid cyflawni o leiaf 15 o gredydau o’r unedau dewisol sy’n weddill i greu cyfanswm o 36 o gredydau ar gyfer y cymhwyster hwn. I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch yma.

Unedau Gorfodol
Teitl yr Uned Cyfeirnod yr Uned Lefel Credydau Oriau Dysgu dan Arweiniad
Deall rolau, cyfrifoldebau a pherthnasau mewn addysg a hyfforddiant H/505/0053 3 3 12
Darparu addysg a hyfforddiant M/505/0122 4 6 24
Defnyddio adnoddau ar gyfer addysg a hyfforddiant L/505/0127 4 3 15
Asesu dysgwyr mewn addysg a hyfforddiant F/505/0125 4 6 24
Cynllunio i ddiwallu anghenion dysgwyr mewn addysg a hyfforddiant A/505/1189 4 3 15

Unedau Dewisol

Teitl yr Uned Cyfeirnod yr Uned Lefel Credydau Oriau Dysgu dan Arweiniad
Asesu cymhwysedd galwedigaethol yn yr amgylchedd gwaith H/601/5314 3 6 30
Datblygu rhaglenni dysgu a datblygu M/502/9545 4 6 30
Ennyn diddordeb dysgwyr yn y broses dysgu a datblygu F/502/9551 3 6 30
Ymgysylltu â chyflogwyr i ddatblygu a chefnogi darpariaeth ddysgu Y/502/9555 3 6 30
Ymgysylltu â chyflogwyr i hwyluso datblygiad y gweithlu D/502/9556 4 6 30
Nodi anghenion dysgu sefydliadau H/502/9543 4 6 30
Sicrhau ansawdd yr asesu yn fewnol A/601/5321 4 6 45
Deall egwyddorion ac arferion sicrhau ansawdd asesu yn allanol F/601/5322 4 6 35
Deall egwyddorion ac arferion sicrhau ansawdd asesu yn fewnol T/601/5320 4 6 45
Dysgu gweithredol i gefnogi datblygiad addysgeg sy’n benodol i bwnc M/503/5376 5 15 50
Ymchwil weithredu T/503/5380 5 15 50
Asesiad a chymorth i gydnabod dysgu blaenorol drwy achredu Deilliant Dysgu F/505/0187 3 6 30
Cyflawni sgiliau cyflogadwyedd M/505/1089 4 6 20
Datblygu, defnyddio a threfnu adnoddau mewn maes arbenigol H/505/1090 5 15 50
Gweithio mewn partneriaeth effeithiol yn y cyd-destun dysgu ac addysgu Y/503/5310 4 15 50
Cydraddoldeb ac amrywiaeth Y/503/5789 4 6 25
Gwerthuso rhaglenni dysgu K/505/1091 4 3 15
Ymarfer cynhwysol L/503/5384 4 15 50
Paratoi ar gyfer y rôl hyfforddi J/505/0188 4 3 15
Paratoi ar gyfer y rôl fentora L/505/0189 4 3 15
Paratoi ar gyfer y rôl tiwtora personol T/505/1093 4 3 15
Technegau a gweithgareddau cyflawni arbenigol R/504/0229 4 9 30
Addysgu mewn maes arbenigol J/505/1096 4 15 50
Deall a rheoli ymddygiad mewn amgylchedd dysgu Y/505/1099 4 6 20
Gweithio gydag ystod oedran 14-19 mewn addysg a hyfforddiant D/505/1105 4 9 30
Defnyddio dulliau a thechnegau sgiliau astudio i wella dysgu pobl eraill K/503/5814 4 6 25
Gweithio gyda dysgwyr unigol R/503/5385 4 15 50
Dysgu gweithredol ar gyfer addysgu mewn maes anabledd arbenigol J/505/0756 5 15 40
                                 

Teaching and Lecturing