QRN -601/7888/7 Ffi £79
Diben y Cymhwyster:
Diben Diploma Lefel 3 Focus Awards mewn Gwaith Chwarae (NVQ) (RQF) yw datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth y dysgwr o egwyddorion gwaith chwarae, gan gynnwys diogelu a hyrwyddo cydberthnasau cadarnhaol. Bydd y cymhwyster hefyd yn ymdrin â gwerthoedd gwaith chwarae, pwysigrwydd chwarae a gwaith chwarae ym mywydau plant a phobl ifanc. Mae Diploma Lefel 3 Focus Awards mewn Gwaith Chwarae (NVQ) (RQF) wedi’i anelu at y dysgwyr hynny sy’n gweithio mewn rôl uwch mewn lleoliadau gwaith chwarae, ac sy’n dymuno symud ymlaen i rôl o’r fath. Lle mae dysgwyr eisoes yn gweithio mewn lleoliad gwaith chwarae, gallwch ddilyn y cymhwyster hwn i gadarnhau ac ymestyn eich gwybodaeth, eich dealltwriaeth a’ch sgiliau.
Ystod Oedran
Mae mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 18 oed i ymgymryd â'r cymhwyster hwn.
Cwmpas Daearyddol
Mae’r cymhwyster hon ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Gofynion Mynediad i Ddysgwyr
Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer y cymhwyster hwn.
Llwybrau Cynnydd
Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o'r cymhwyster hwn ymgymryd â'r cymwysterau canlynol:
- Dyfarniad a Thystysgrif Lefel 4 mewn Gwaith Chwarae (RQF)
- Diploma Lefel 5 mewn Gwaith Chwarae (RQF)
- Gradd mewn maes cysylltiedig, e.e. Blynyddoedd Cynnar.
Strwythur y Cymhwyster
Er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, rhaid i ddysgwr gwblhau pob un o'r saith uned orfodol. Unedau Gorfodol I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch
yma.