Tystysgrif NVQ Lefel 2 Focus Awards mewn Arweinyddiaeth Gweithgarwch (RQF)

QRN -601/4886/X                                                                                               Ffi £49

Diben y Cymhwyster:

Mae Tystysgrif NVQ Lefel 2 Focus Awards mewn Arweinyddiaeth Gweithgarwch wedi’i hanelu at y dysgwyr hynny sy’n gweithio mewn amgylcheddau fel canolfannau gwyliau, clybiau ieuenctid, canolfannau hamdden a sefydliadau gweithgarwch eraill. Bydd y cymhwyster yn rhoi’r cymhwysedd, yr wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i ddysgwyr ar draws meysydd fel iechyd a diogelwch, cefnogi timau, cynaliadwyedd amgylcheddol, darparu gwasanaethau da i gwsmeriaid a chynnal offer ar gyfer gweithgareddau.

Ystod Oedran

Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan; fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 16 oed i ymgymryd â’r cymhwyster.

Cwmpas Daearyddol

Mae’r cymhwyster hwn wedi ei achredu i’w ddefnyddio yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Gofynion Mynediad i Ddysgwyr

Mae’r cymhwyster yn gofyn am ymdrech gorfforol ac mae cyfranogiad unigol yn hanfodol, felly mae angen rhywfaint o ffitrwydd corfforol. Cynhwysir elfen o gyfathrebu (trafod, cyflwyno, darllen, ac ysgrifennu) a chymhwyso rhifau, felly dylai dysgwyr feddu ar sgiliau sylfaenol mewn cyfathrebu a rhifedd ar Lefelau 3 a 2 yn y drefn honno.

Llwybrau Cynnydd

Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o’r cymhwyster hwn ddatblygu eu sgiliau ymhellach drwy’r canlynol:
  • Dyfarniad Lefel 2 + 3 mewn Egwyddorion Hyfforddi Chwaraeon
  • Diploma NVQ Lefel 3 mewn Rheoli Hamdden
  • Diploma NVQ Lefel 3 mewn Datblygu Chwaraeon
  • Diploma NVQ Lefel 3 mewn Hyfforddiant Personol
  • Prentisiaeth Lefel Ganolraddol mewn Arweinyddiaeth Gweithgarwch

Strwythur y Cymhwyster

Er mwyn llwyddo i ennill Tystysgrif NVQ Lefel 2 mewn Arweinyddiaeth Gweithgarwch, rhaid i ddysgwyr ennill 30 credyd o chwe uned orfodol sy’n dod i gyfanswm o 25 credyd a dwy uned ddewisol sy’n dod i gyfanswm o bum credyd.

Unedau Gorfodol

I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch yma.

Unedau Gorfodol

Teitl yr Uned Cyfeirnod yr Uned Lefel Credydau Oriau Dysgu dan Arweiniad
Paratoi sesiynau gweithgarwch F/601/5532 2 30 4
Arwain sesiynau gweithgarwch J/601/5533 3 67 9
Cwblhau ac adolygu sesiwn weithgarwch L/601/5534 2 30 4
Cefnogi gwaith y tîm a’r sefydliad Y/601/4483 2 15 2
Hybu iechyd, diogelwch a lles mewn hamdden egnïol D/601/4484   2 30 4
Cefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn hamdden egnïol H/601/4485 3 15 2

Unedau dewisol

 Teitl yr Uned Cyfeirnod yr Uned Lefel Credydau Oriau Dysgu dan Arweiniad
Cyfrannu at ddatblygiad personol a chymdeithasol cyfranogwyr K/601/5542 2 37 5
Cyfrannu at broses cyfranogwyr o archwilio a deall yr amgylchedd naturiol M/601/5543 2 30 4
Gweinyddu cyllid a gwybodaeth R/601/5535 2 22 3
Cyfrannu at gydweithio â sefydliadau eraill Y/601/5536 2 30 4
Cefnogi datblygiad y gamp neu’r gweithgaredd H/601/5538 2 15 2
Gofalu am gyfranogwyr pan fyddant oddi cartref K/601/559 3 45 6
Galluogi pobl anabl i gymryd rhan mewn gweithgareddau D/601/5540 3 67 9
Cyfrannu at weithgareddau anturus H/601/5541   2 60 8
Cyfrannu at gadwraeth amgylcheddol mewn hamdden egnïol L/601/4495 3 45 6
Gosod, dadosod a storio offer ar gyfer gweithgareddau K/601/4486 2 22 3
Gwirio a gwasanaethu offer ar gyfer gweithgareddau M/601/4487 2 22 3
Rhoi argraff gadarnhaol ohonoch chi eich hun a’ch sefydliad i gwsmeriaid L/601/0933 2 33 5

Sports, Leisure and Recreation