QRN - 601/4969/3 Ffi £29
Diben y Cymhwyster:
Nod Dyfarniad Lefel 3 Focus Awards mewn Ymwybyddiaeth o Gyflogaeth mewn Hamdden Egnïol a Dysgu (RQF) yw rhoi dealltwriaeth a gwybodaeth i ddysgwyr am y sector hamdden egnïol yn ei gyfanrwydd, a hefyd eu hawliau a’u cyfrifoldebau yn eu sefydliad eu hunain. Mae Dyfarniad Lefel 3 Focus Awards mewn Ymwybyddiaeth o Gyflogaeth mewn Hamdden Egnïol a Dysgu (RQF) wedi’i anelu at y dysgwyr hynny sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, yn y sector hamdden egnïol a’r rhai sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o hawliau a chyfrifoldebau cyflogeion yn y sector ymhellach. Mae’r cymhwyster hefyd wedi’i anelu at y dysgwyr hynny sy’n ymgymryd ag uwch brentisiaeth ar gyfer unrhyw un o’r llwybrau hamdden egnïol a dysgu.
Ystod Oedran
Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 16 oed i ymgymryd â’r cymhwyster hwn.
Cwmpas Daearyddol
Mae’r cymhwyster hwn ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Gofynion Mynediad i Ddysgwyr
Nid yw Focus Awards yn gosod unrhyw ofynion mynediad eraill, ond gall y ganolfan bennu neu ofyn am feini prawf ychwanegol.
Llwybrau Cynnydd
Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o’r cymhwyster hwn ddatblygu eu sgiliau ymhellach drwy’r canlynol:
- Tystysgrif Lefel 3 Focus Awards mewn Cynllunio a Darparu Hyfforddiant Personol (RQF)
- Diploma NVQ Lefel 3 Focus Awards mewn Rheoli Hamdden (RQF)
- Tystysgrif Lefel 3 Focus Awards mewn Rheoli Hamdden (RQF)
Strwythur y Cymhwyster
Er mwyn cwblhau Dyfarniad Lefel 3 Focus Awards mewn Ymwybyddiaeth o Gyflogaeth mewn Hamdden Egnïol a Dysgu (RQF), rhaid i ddysgwyr gwblhau 3 uned orfodol, gan gyflawni cyfanswm o 8 credyd.
I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch
yma.