QRN – 601/7672/6 Fee £53.90
Diben y Cymhwyster:
Mae Diploma Lefel 3 Focus Awards mewn Cymorth Arbenigol ar gyfer Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion (RQF) wedi’i anelu at yr aelodau hynny o weithlu’r ysgol sy’n cefnogi yn uniongyrchol y gwaith o addysgu a dysgu disgyblion.
Mae’r cymhwyster yn darparu gwybodaeth a dealltwriaeth a sgiliau pob agwedd ar y cymorth arbenigol sydd ei angen ar gyfer strategaethau i gefnogi dysgu ochr yn ochr â’r athro, cymorth anghenion dwyieithog ac arbennig a datblygiad personol a myfyrio ynghylch addysgeg.
Ystod Oedran
Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 16 oed i ymgymryd â’r cymhwyster hwn.
Cwmpas Daearyddol
Mae’r cymhwyster hwn ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Gofynion Mynediad i Ddysgwyr
Nid yw Focus Awards yn gosod unrhyw ofynion mynediad eraill, ond gallai’r ganolfan bennu neu ofyn am feini prawf ychwanegol.
Llwybrau Cynnydd
Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o’r cymhwyster hwn ymgymryd â’r cymwysterau canlynol:
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Goruchwyliaeth Gyflenwi ar gyfer Disgyblion mewn Ysgolion (QCF)
- Diploma Lefel 4 mewn Cymorth Arbenigol ar gyfer Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion (QCF)
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
- Dyfarniad Lefel 3 mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Strwythur y Cymhwyster
Er mwyn llwyddo i ennill Diploma Lefel 3 Focus Awards mewn Cymorth Arbenigol ar gyfer Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion (RQF), mae’n rhaid i ddysgwyr gwblhau pob uned orfodol sy’n dod i gyfanswm o 44 o gredydau.
I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch yma.