QRN – 601/5373/8 Fee £52
Diben y Cymhwyster:
Nod Diploma Lefel 3 Focus Awards mewn Datblygu Chwaraeon yw cydnabod cymhwysedd yn y gweithle i ddysgwyr mewn rôl datblygu chwaraeon yn y sector hamdden egnïol.
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at y canlynol:
- Dysgwyr 16+ oed sydd â’r cyfle i ddilyn gyrfa yn y diwydiant hamdden egnïol fel swyddog datblygu chwaraeon.
- Arweinwyr gweithgareddau a hoffai gael cymhwyster i’w helpu i symud ymlaen i’r lefel nesaf fel swyddog datblygu chwaraeon (rhaid rhoi digon o gyfrifoldebau i ddysgwyr er mwyn cynhyrchu’r dystiolaeth angenrheidiol ar gyfer eu hunedau dewisol).
- Swyddogion datblygu chwaraeon cyfredol a hoffai gael cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol i ffurfioli eu profiad a’u sgiliau yn eu rôl gyfredol.
- Cyfleusterau hamdden egnïol (canolfan hamdden, cynghorau lleol ac ati...) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’w staff datblygu chwaraeon presennol feddu ar gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol er mwyn gwella eu rheolaeth gyffredinol o’r staff, gwella cysylltiadau yn y gymuned a gwasanaeth cwsmeriaid cyffredinol ar draws eu sefydliadau.
Ystod Oedran
Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 16 oed i ymgymryd â’r cymhwyster hwn. Efallai y bydd angen i ddysgwyr rhwng 16 a 18 oed gael eu goruchwylio yn ystod y cymhwyster hwn, ac ar ôl ei gwblhau.
Cwmpas Daearyddol
Mae’r cymhwyster hwn ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Gofynion Mynediad i Ddysgwyr
Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer y cymhwyster hwn.
Llwybrau Cynnydd
Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o’r cymhwyster hwn ymgymryd â’r cymwysterau canlynol:
- Cymwysterau NVQ Generig mewn Rheolaeth ar Lefelau 3 i 5
- Tystysgrif Lefel 3 mewn hyfforddiant personol
Strwythur y Cymhwyster
I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch
yma.
Unedau Gorfodol:
Teitl yr Uned |
Cyfeirnod yr Uned |
Lefel |
Credydau |
Oriau Dysgu dan Arweiniad |
Rheoli eich adnoddau a’ch datblygiad proffesiynol eich hun |
M/502/8458 |
4 |
5 |
20 |
Cyfrannu at ddatblygiad strategol mewn chwaraeon a hamdden egnïol |
M/503/0534 |
3 |
7 |
23 |
Darparu arweinyddiaeth mewn chwaraeon a hamdden egnïol |
K/502/9690 |
5 |
9 |
60 |
Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol |
T/503/0535 |
3 |
15 |
51 |
Sicrhau iechyd, diogelwch, lles a diogeledd cwsmeriaid a staff |
A/503/0651 |
3 |
4 |
23 |
Unedau Dewisol 1:
Teitl yr Uned |
Cyfeirnod yr Uned |
Lefel |
Credydau |
Oriau Dysgu dan Arweiniad |
Hwyluso chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn y gymuned |
F/503/0652 |
3 |
16 |
73 |
Cefnogi datblygiad chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn addysg |
J/503/0653 |
4 |
13 |
43 |
Unedau Dewisol 2:
Teitl yr Uned |
Cyfeirnod yr Uned |
Lefel |
Credydau |
Oriau Dysgu dan Arweiniad |
Arwain ac ysgogi gwirfoddolwyr |
K/503/0645 |
3 |
10 |
59 |
Recriwtio, dewis a chadw cydweithwyr |
H/602/1842 |
5 |
12 |
85 |
Cynnwys, ysgogi a chadw gwirfoddolwyr |
Y/503/0656 |
3 |
10 |
60 |
Datblygu perthnasoedd gwaith cynhyrchiol â chydweithwyr a rhanddeiliaid |
A/502/9287 |
3 |
4 |
22 |
Dyrannu a monitro cynnydd ac ansawdd gwaith yn eich maes cyfrifoldeb eich hun |
M/602/1844 |
4 |
14 |
95 |
Darparu cyfleoedd dysgu i gydweithwyr |
K/602/1843 |
4 |
11 |
85 |
Cyfrannu at atal a rheoli ymddygiad camdriniol ac ymosodol |
T/601/1168 |
3 |
4 |
20 |
Adnabod arwyddion camddefnyddio sylweddau a chyfeirio unigolion at arbenigwyr |
M/601/0648 |
3 |
4 |
24 |
Cefnogi’r defnydd effeithlon o adnoddau |
H/502/8456 |
4 |
5 |
19 |
Gwneud cais am gyllid allanol ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol |
R/503/0655 |
3 |
11 |
58 |
Rheoli gwybodaeth ar gyfer gweithredu |
K/502/8457 |
3 |
6 |
24 |
Cyfrannu at werthuso, datblygu a hyrwyddo gwasanaethau |
H/602/1839 |
4 |
11 |
85 |
Cynllunio a threfnu gwasanaethau |
D/502/9685 |
3 |
3 |
15 |
Rheoli prosiect |
J/502/9678 |
4 |
6 |
26 |
Gweithio gydag eraill i wella gwasanaethau cwsmeriaid |
D/601/1553 |
3 |
8 |
53 |
Sports, Leisure and Recreation