Diploma Lefel 3 Focus Awards mewn Atgyfeirio at Ymarfer Corff (RQF)

QRN – 601/7916/8                                                          Fee £69

 

Diben y Cymhwyster:

Diben Diploma Lefel 3 Focus Awards mewn Atgyfeirio at Ymarfer Corff yw rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i'r dysgwr o ran defnyddio egwyddorion anatomeg a ffisioleg, cyflyrau meddygol, ymarfer proffesiynol a maeth. Bydd dysgwyr yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gynllunio a hyfforddi rhaglenni addas ar gyfer cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio i wneud ymarfer corff. Mae Diploma Lefel 3 Focus Awards mewn Atgyfeirio at Ymarfer Corff (RQF) wedi'i anelu at y dysgwyr hynny sy'n gweithio yn y sector Ffitrwydd a Hamdden Egnïol ar hyn o bryd neu sy’n dymuno gweithio yn y sector hwnnw.

Ystod Oedran

Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 16 oed i ymgymryd â'r cymhwyster hwn.

Cwmpas Daearyddol

Mae'r cymhwyster hwn ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Gofynion Mynediad i Ddysgwyr

Rhaid i ddysgwyr fod wedi ennill cymhwyster rhagofynnol naill ai mewn Hyfforddi Ffitrwydd (wedi’i leoli yn y gampfa, ymarfer corff i gerddoriaeth neu yn y d?r) ar Lefel 2 neu Hyfforddiant Personol ar Lefel 3.

Llwybrau Cynnydd

Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o'r cymhwyster hwn ddatblygu eu sgiliau ymhellach drwy'r canlynol:
  • Tystysgrif Lefel 4 Focus Awards mewn Datblygu Strategaethau Gweithgarwch Corfforol a Rheoli Pwysau ar gyfer Cleientiaid Diabetig (RQF)
  • Tystysgrif Lefel 4 Focus Awrds mewn Datblygu Strategaethau Gweithgarwch Corfforol a Rheoli Pwysau ar gyfer Cleientiaid Gordew (RQF)
  • Tystysgrif Lefel 4 Focus Awards mewn Darparu Gweithgarwch Corfforol i Unigolion â Chyflyrau Iechyd Meddwl (RQF)

Strwythur y Cymhwyster

I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch yma.

Unedau Gorfodol:
Teitl yr Uned Cyfeirnod yr Uned Lefel Credydau Oriau Dysgu dan Arweiniad
Cynllunio rhaglenni atgyfeirio at ymarfer corff gyda chleifion D/503/7494 3 8 52
Deall Cyflyrau Meddygol ar gyfer Atgyfeirio at Ymarfer Corff R/503/7492 4 7 35
Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Hyfforddwyr Atgyfeirio at Ymarfer Corff Y/503/7493 3 2 14
Hyfforddi ymarfer corff gyda chleifion sydd wedi'u hatgyfeirio L/503/7491 3 9 58
Anatomeg a ffisioleg ar gyfer ymarfer corff ac iechyd A/600/9051 3 6 43
Cymhwyso egwyddorion maeth i raglen gweithgarwch corfforol L/600/9054 3 6 40

Sports, Leisure and Recreation