QRN – 601/6099/8 Fee £29
Diben y Cymhwyster:
Nod Dyfarniad Lefel 3 Focus Awards mewn Addysg a Hyfforddiant (RQF) yw rhoi gwybodaeth i ddysgwyr am rolau, cyfrifoldebau a pherthnasoedd ym maes addysg a hyfforddiant. Mae'n rhoi dealltwriaeth o addysgu a dysgu cynhwysol a’r broses weithredu, hwyluso dysgu unigol ac mewn gr?p a gwybodaeth am asesu a'r broses o’i weithredu ym maes addysg a hyfforddiant.
Mae'r cymhwyster hwn wedi'i anelu at y dysgwyr hynny nad ydynt yn addysgu ar hyn o bryd, dysgwyr sy'n addysgu ac yn hyfforddi ar hyn o bryd a'r dysgwyr hynny sy'n gweithio fel aseswyr sy'n dymuno ennill cymhwyster sy'n rhoi cyflwyniad i addysgu.
Ystod Oedran
Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 19+ oed i ymgymryd â'r cymhwyster hwn.
Cwmpas Daearyddol
Mae'r cymhwyster hwn ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Gofynion Mynediad i Ddysgwyr
Nid yw Focus Awards yn gosod unrhyw ofynion mynediad eraill, ond gall y ganolfan bennu neu ofyn am feini prawf ychwanegol.
Llwybrau Cynnydd
Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o'r cymhwyster hwn ddatblygu eu sgiliau ymhellach drwy'r canlynol:
- Tystysgrif Lefel 4 Focus Awards mewn Addysg a Hyfforddiant
- Diploma Lefel 5 Focus Awards mewn Addysg a Hyfforddiant
Strwythur y Cymhwyster
I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch
yma.