QRN - 601//8047/X Ffi £49
Diben y Cymhwyster:
Nod Tystysgrif Lefel 2 Focus Awards mewn Cefnogi Dysgu mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion (RQF) yw datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth y dysgwr o egwyddorion addysgu addysg gorfforol mewn ysgolion a deall y ddeddfwriaeth gysylltiedig.
Ystod Oedran
Ceir mynediad yn ôl disgresiwn y ganolfan. Fodd bynnag, dylai dysgwyr fod yn 16 oed i ymgymryd â'r cymhwyster hwn.
Cwmpas Daearyddol
Mae'r cymhwyster hwn ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Gofynion Mynediad i Ddysgwyr
Dylai dysgwyr fod yn gymwys mewn llythrennedd a rhifedd i helpu gydag elfennau cyfathrebu. Mae hyn yn ôl disgresiwn y ganolfan gan y gallent benderfynu defnyddio dulliau profi diagnostig i ganfod sut y gallant gefnogi dysgwyr.
Llwybrau Cynnydd
Gall dysgwyr sydd am symud ymlaen o’r cymhwyster hwn ddatblygu eu sgiliau ymhellach drwy'r canlynol:
- Tystysgrif Lefel 3 Focus Awards mewn Cefnogi’r Ddarpariaeth o Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion (RQF)
- Diploma NVQ Lefel 3 Focus Awards mewn Cefnogi’r Ddarpariaeth o Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion (RQF)
Strwythur y Cymhwyster
Er mwyn llwyddo i ennill Tystysgrif Lefel 2 Focus Awards mewn Cefnogi Dysgu mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion (RQF), rhaid i ddysgwyr gwblhau pob uned orfodol i gyflawni cyfanswm o 18 credyd.
I weld y Fanyleb Cymhwyster cliciwch
yma.